Mae ‘twyllwyr tipio’ ar Facebook yn esgus bod yn gwmnïau cludo gwastraff cyfreithlon, gan bostio hysbysebion yn y gofod Marketplace ac mewn grwpiau cymunedol, cymryd arian gan ddeiliaid tai – ac wedyn dympio eu gwastraff er mwyn arbed arian ar gostau gwaredu. Mae hyn yn achosi niwed mawr i dirwedd naturiol Cymru a hefyd yn golygu bod deiliad y tŷ mewn perygl o gael dirwy.

Un ffordd o osgoi twyllwyr tipio yw gwirio bod unrhyw un sy’n cludo’ch gwastraff wedi’u trwyddedu i wneud hynny gan Cyfoeth Naturiol Cymru – mae hyn hefyd yn ofyniad cyfreithiol ar ddeiliaid tai a busnesau. Darllenwch ein canllaw isod yn trafod beth i edrych amdano fel y gallwch chi adnabod ‘twyllwr tipio’ ar Facebook cyn ei bod hi’n rhy hwyr...ac edrychwch ar ein Pecyn Cymorth i ddarllen mwy am sut y gall gweinyddwyr Facebook, cludwyr gwastraff, a chi a ni helpu i gefnogi ein hymgyrch #AtalTwyllwyrGwastraffarFacebook drwy helpu i godi ymwybyddiaeth ar draws y cyfryngau cymdeithasol o’r math yma o dwyll.

Gofynnwch gwestiynau i’r contractwr CYN i chi dderbyn dyfynbris ar Facebook

Rhaid bod gan gontractwr gyfeirnod trwydded cludo gwastraff sy’n dechrau gyda CBDU ac yn gorffen gyda rhif rhwng 1 a 6. Bydd contractwyr cyfreithlon a chyfrifol yn hapus i ddarparu’r cyfeirnod hwn yn eu hysbyseb neu ar gais.

Gwiriwch y cyfeirnod mae’r contractwr yn ei roi i chi yng nghronfa ddata Cyfoeth Naturiol Cymru. Teipiwch cyfoethnaturiol.cymru/GwiriwchDrwyddedGwastraff neu ffoniwch 0300 065 3000. Gallwch hefyd chwilio’r gofrestr yn ôl enw busnes neu god post, ond byddwch yn wyliadwrus oherwydd weithiau mae contractwyr yn cofrestru gydag enw gwahanol i’r un maen nhw’n gweithredu oddi tano.

Tynnwch lun o’r cyfeirnod neu wneud nodyn ohono, rhag ofn bod eich gwastraff yn cael ei dipio’n anghyfreithlon a’r cyngor yn curo ar eich drws – bydd hyn yn profi eich bod wedi dilyn eich dyletswydd gofal gwastraff, hyd yn oed os na wnaeth y contractwr.

Mae’n well gwneud y gwiriad hwn cyn archebu gwasanaeth yn hytrach nag aros tan fydd y contractwr wrth eich drws. Hefyd, os ydych yn byw yn agos at y ffin neu os yw’r cwmni rydych yn bwriadu ei ddefnyddio yn gweithredu gwasanaeth ledled y DU, efallai eich bod yn delio â chontractwr a fydd wedi’i gofrestru ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yma, neu Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban yma. Rhaid i chi wirio bod ganddynt drwydded o hyd.

Anwybyddwch hysbysebion â phrisiau amheus o isel

Bydd twyllwyr yn aml yn hysbysebu prisiau amheus o isel i gludo eich gwastraff am lawer llai nag y mae’r rhan fwyaf o fusnesau eraill yn ei gynnig, gan wneud i chi feddwl tybed sut maen nhw’n gwneud elw... Os yw’r pris yn annhebygol o ffafriol, mae’n debyg ei fod yn dwyll. Mae’n werth talu am gael cludo gwastraff mewn ffordd gyfreithlon a chyfrifol er mwyn eich gwarchod eich hun rhag cael dirwy a gwarchod eich amgylchedd lleol rhag tipio anghyfreithlon.  

Peidiwch â ‘thalu ddwywaith’ am gael gwared ar wastraff. Gallech gael dirwy am fod rhywun arall yn tipio eich gwastraff.

Os dilynwch y camau hyn, byddwch yn cefnogi contractwyr lleol cyfreithlon, sy’n dilyn y rheolau ac yn gwaredu gwastraff mewn ffordd gyfrifol, a bydd hynny’n diogelu’r amgylchedd ac yn cyfrannu at yr economi.

Ceisiwch osgoi talu mewn arian parod

Contractwyr yn cynnig cael gwared ar eich gwastraff cartref am arian parod yn unig? Dylai hyn seinio’r larwm yn syth.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd; er mwyn ei gwneud yn anoddach olrhain eu gweithredoedd anghyfreithlon, bydd twyllwyr tipio yn aml yn cludo eich gwastraff am arian parod. Pan fo modd, ceisiwch osgoi talu ag arian parod – talwch â cherdyn fel bod modd olrhain y taliad, a gofynnwch am dderbynneb bob amser.

Nodwch wybodaeth y cerbyd

Dylech bob amser wneud nodyn o rif cofrestru, gwneuthuriad a model y cerbyd a ddefnyddir i gludo’ch gwastraff. Os caiff eich gwastraff ei ffeindio wedi’i dipio’n anghyfreithlon ac os caiff ei olrhain yn ôl atoch chi, bydd y cyngor yn gofyn am unrhyw wybodaeth a allai fod gennych i’w helpu i olrhain y sawl sy’n euog. 

Yn anffodus, mae contractwyr trwyddedig hefyd wedi’u canfod yn tipio’n anghyfreithlon, felly cofnodwch y wybodaeth hon bob tro y byddwch yn talu rhywun i gludo’ch gwastraff.

 Ceisiwch osgoi hysbysebion a gwefannau amheus

Os yw gwefan contractwr yn edrych yn amheus – efallai ei bod yn llawn camgymeriadau sillafu, wedi’i chreu a’i dylunio’n wael, neu heb wybodaeth allweddol fel y cyfeirnod trwydded cludo gwastraff – byddwch yn wyliadwrus. Os yw’r hysbyseb yn Facebook hefyd yn cynnwys ond ychydig iawn o wybodaeth gyswllt, peidiwch â mynd ddim pellach.

 

South Wales Fly-tipper BEWARE (1).jpg

Ystyriwch eich opsiynau eraill

Ystyriwch opsiynau eraill cyn talu am gontractwr annibynnol i gludo’ch gwastraff.  Gallwch ddefnyddio gwasanaeth cludo gwastraff swmpus eich cyngor lleol, neu fynd â’ch eitemau i’r domen sbwriel, neu gynnig eich eitemau i elusen – yna fydd dim rhaid i chi boeni am wirio’r drwydded.

 

Ydych chi’n cludo neu’n casglu gwastraff a heb gofrestru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru? I ddysgu mwy, chwiliwch am cyfoethnaturiol.cymru/CofrestruCludwrGwastraff

I wirio trwydded, chwiliwch am: cyfoethnaturiol.cymru/GwiriwchDrwyddedGwastraff

Am fynediad i ein Pecyn Cymorth cliciwch yma

Darllenwch fwy o’n herthyglau ar dipio anghyfreithlon ar ein gwefan yma.