RYDW I’N DDEILIAD TŶ

Mae dwy ran o dair o’r holl wastraff sy’n cael ei ollwng yn anghyfreithlon yng Nghymru yn dod o aelwydydd, felly'r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud i’n helpu i leihau achosion o dipio anghyfreithlon yw atal eich gwastraff rhag mynd i ddwylo pobl a allai ei dipio’n anghyfreithlon.

Eich Gwastraff Chi. Eich Cyfrifoldeb Chi.

Fel meddiannydd eiddo domestig, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod unrhyw wastraff ar yr aelwyd sy’n cael ei gynhyrchu ar eich eiddo chi yn cael ei roi i unigolyn awdurdodedig. Mae’n rhaid i chi wirio bod unrhyw unigolyn rydych chi’n rhoi gwastraff eich aelwyd iddo yn gludwr gwastraff cofrestredig. Os ydych chi’n danfon gwastraff yr aelwyd eich hun, yna mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod y safle wedi’i gofrestru i’w dderbyn.

Er enghraifft, gall fod yn wastraff ychwanegol rydych chi wedi’i gynhyrchu wrth lanhau a chlirio, neu’n eitemau diangen fel hen beiriannau golchi dillad, rhewgell-oergell, hen fatresi, teganau neu wastraff o dasgau DIY bach rydych chi wedi’u gwneud ar eich eiddo eich hun.  

Y term am hyn yw 'Dyletswydd Gofal Gwastraff Deiliad Tŷ' ac mae canllawiau llawn ar gael ar ein tudalen Dyletswydd Gofal.

Llogi Sgipiau / Clirio Tai

Os ydych chi’n ymwneud â busnes preifat (fel llogi sgipiau neu glirio tai) neu os oes gweithwyr yn dod atoch i gludo eich gwastraff i ffwrdd, er mwyn bodloni eich dyletswydd gofal, dylech wneud yn siŵr eu bod yn gludwyr gwastraff cofrestredig gyda thrwydded haen uwch ddilys.

Dylai pob cludydd fod â rhif cofrestru yn cychwyn â CBDU, gyda chyfres o rifau i ddilyn. Gellir gwirio drwy fynd i gofrestr gyhoeddus ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru neu drwy ffonio 0300 065 3000.

Mae’n drosedd os nad ydych chi’n cymryd pob cam rhesymol sydd ar gael i chi i fodloni eich dyletswydd gofal. Gallech dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 neu gallech gael eich erlyn a chael dirwy diderfyn.

Masnachwyr

Os oes rhywun yn gwneud gwaith ar eich eiddo, nhw sy’n gyfrifol am y gwastraff a gynhyrchir ac mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â’u dyletswydd gofal tuag at wastraff eu busnes. Fodd bynnag, os ydych chi’n gofyn i fasnachwr gludo i ffwrdd gwastraff ychwanegol rydych chi wedi’i gynhyrchu ar eich eiddo, yna mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eu bod yn gludwyr gwastraff cofrestredig.

Wrth gyflogi masnachwr, dylech ofyn bob amser cyn iddyn nhw gychwyn y gwaith, sut maen nhw’n bwriadu gwaredu’r gwastraff a gynhyrchir ganddyn nhw.

Sut ydw i’n gwaredu fy ngwastraff yn gyfrifol?

Mae sawl ffordd o waredu’ch gwastraff diangen yn ddiogel, yn gyfreithiol ac yn gyfrifol.

Oes modd rhoi rhywfaint o’ch eitemau i elusennau ailgylchu neu eu rhoi i siopau elusen leol? Hefyd, a oes modd gwerthu rhai o’r eitemau gwastraff (neu eu rhoi am ddim) ar wefannau fel Ebay, Freecycle, Preloved neu Gumtree? Cofiwch, gall eitem o’ch gwastraff chi fod yn drysor i rywun arall!

Os na all rhywun arall wneud defnydd o’ch eitemau chi neu os nad oes modd eu trwsio, yna mae Awdurdodau Lleol ledled Cymru yn cynnal canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref lle gallwch ddanfon gwastraff i’w ailgylchu neu ei waredu.

Gallwch ddefnyddio gwefan Cymru yn Ailgylchu i ddod o hyd i’ch canolfan agosaf ar gyfer ailgylchu gwastraff yr aelwyd a gweld a yw eich gwastraff yn cael ei dderbyn. Gallwch chwilio ar wefan eich Awdurdod Lleol hefyd.

Gall nifer o awdurdodau lleol gasglu eitemau mawr, swmpus o’ch cartref am ffi fach. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol am ragor o wybodaeth.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n tipio gwastraff yr aelwyd yn anghyfreithlon?

Os ydych chi’n penderfynu tipio gwastraff yn anghyfreithlon yna rydych chi’n torri’r gyfraith ac mae perygl i chi gael cofnod troseddol, gyda dirwyon o hyd at £50,000 neu 12 mis o garchar. Gall troseddau mwy difrifol neu droseddau mynych ddenu dirwy ddiderfyn a hyd at 5 mlynedd o garchar os ydych chi’n cael eich euogfarnu yn Llys y Goron.

Ymunwch â'n e-gylchlythyr

Tanysgrifiwch