Rydw i'n berchennog busnes

Fel perchennog busnes rydych chi’n gyfrifol am reoli a gwaredu eich gwastraff busnes yn ddiogel.

Gall y ffordd y rheolwch eich gwastraff gostio’n ddrud i’ch busnes o ran arian ac enw da os nad ydych yn ei waredu’n gywir.

Edrychwch ar y wefan Right Waste Right Place i gael gwybodaeth fanwl am sut i waredu gwastraff busnes a’ch helpu i ddeall eich cyfrifoldebau.

Os ydych yn cynhyrchu, cludo, mewnforio, cadw, trin neu waredu gwastraff, mae gennych ddyletswydd gofal gyfreithiol i sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei drin yn ddiogel, ac mai dim ond i’r bobl sydd ag awdurdod i’w dderbyn y bydd yn cael ei drosglwyddo.

Os ydych yn cludo gwastraff fel rhan o’ch busnes, bydd angen ichi gofrestru fel cludydd gwastraff. Edrychwch ar ein tudalen Cludwyr Gwastraff i gael mwy o wybodaeth.

Os caiff eich gwastraff ei gasglu gan rywun arall, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr unigolyn hwnnw’n gludydd gwastraff cofrestredig a’i fod yn mynd â’ch gwastraff i safle sydd wedi’i awdurdodi i’w dderbyn.

Hefyd, bydd angen ichi lenwi dogfen gwastraff (a elwir yn nodyn trosglwyddo) ar gyfer pob llwyth o wastraff a drosglwyddwch i eraill.

Efallai y gallwch ddefnyddio tocyn tymor os ydych yn cael casgliadau rheolaidd ar gyfer yr un math o wastraff. Dylid cadw dogfennau gwastraff am o leiaf ddwy flynedd.

Ar gyfer gwastraff peryglus, dylid cadw’r dogfennau am o leiaf chwe blynedd.

Gallech gael dirwy ddiderfyn os nad ydych yn bodloni’r ddyletswydd gofal mewn perthynas â gwastraff eich busnes.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi mwy o wybodaeth ichi am yr uchod a gall gadarnhau a yw busnes wedi cofrestru i gludo gwastraff. Edrychwch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu cysylltwch ar 0300 065 3000.

Uchafswm y cosbau ar gyfer tipio anghyfreithlon yw dirwy o £50,000 a hyd at 12 mis o garchar os ydych yn cael eich barnu’n euog mewn Llys Ynadon. Gall y drosedd ddwyn dirwy ddiderfyn a hyd at 5 mlynedd o garchar os ydych yn cael eich barnu’n euog yn Llys y Goron.

Gwastraff Adeiladu a Dymchwel

Os yw eich busnes yn delio â gwastraff adeiladu neu wastraff dymchwel, yna bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall eich cyfrifoldebau:

Taflen Adeiladu a Dymchwel

Cynhyrchwyr Gwastraff Peryglus

Os ydych yn cynhyrchu neu’n storio mwy na 500kg o wastraff peryglus y flwyddyn, yna mae angen cofrestru eich busnes gyda Cyfoeth Naturiol Cymru bob blwyddyn.

Hefyd, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith ichi gyflwyno ffurflenni derbynwyr i Cyfoeth Naturiol Cymru bob chwarter, lle cyflwynir tystiolaeth bod y gwastraff peryglus wedi’i waredu’n briodol.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ar gyfer busnesau sy’n cynhyrchu gwastraff peryglus.

Landlordiaid

Fel landlord, bydd unrhyw wastraff a gynhyrchir gennych fel rhan o waith i ddatblygu neu gynnal a chadw eich eiddo yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff busnes. I gael mwy o wybodaeth am sut y mae hyn yn effeithio arnoch chi a’ch tenantiaid, edrychwch ar ein tudalen Cyngor i Landlordiaid.

Ymunwch â'n e-gylchlythyr

Tanysgrifiwch