Os mae'n swnio'n rhy dda i fod yn wir,
mae'n debygol ei fod e...

Yn aml, mae masnachwyr twyllodrus sy’n tipio’n anghyfreithlon er elw yn hysbysebu eu gwasanaethau gyda phrisiau afrealistig o isel er mwyn denu cwsmeriaid. Dyma rai costau cyfartalog realistig i’w cadw mewn cof y tro nesaf y teimlwch fod y pris yn swnio’n rhy dda i fod yn wir…

Cofiwch – eich gwastraff chi, eich cyfrifoldeb chi. Os gwelir bod eich gwastraff wedi cael ei dipio’n anghyfreithlon, fe allech gael eich erlyn. Ceir mwy o wybodaeth yma ynglŷn â’ch Dyletswydd Gofal.

I wirio a yw masnachwr yn gludydd gwastraff cofrestredig, edrychwch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru a chwiliwch trwy’r gofrestr gyhoeddus.
 

 car 3.png          car costs welsh.png

van 4.png                                van cost welsh.png
 

 skip 3.png                                   skip costs welsh.png

*Mae’r gost yn seiliedig ar sgip 6.12m3 (metrau ciwbig); y gost gyfartalog ar gyfer sgip mwy 9.8m3 yw £300

 

Oeddech chi'n gwybod?

Bydd eich Cyngor yn dod i nôl eich gwastraff swmpus – mae’r gost ar gyfer nôl tair eitem yn amrywio o £12 - £44, felly ni fydd angen ichi fynd i’r ganolfan wastraff na gwirio trwyddedau cludo gwastraff.

Mae Cynghorau yn ceisio helpu – caiff y costau ar gyfer casglu gwastraff swmpus gryn dipyn o gymhorthdal, mae rhai cynghorau’n cynnig un gwasanaeth am ddim ar gyfer nôl un eitem y flwyddyn, ynghyd â chyfradd is i drigolion ar fudd-daliadau, ac mae rhai hyd yn oed yn clirio tai a gerddi.

Edrychwch ar wefan eich Cyngor neu ffoniwch nhw i gael mwy o wybodaeth. Hefyd, mae gan y rhan fwyaf o Gynghorau fanylion am elusennau a ddaw i nôl eitemau gwastraff y gellir eu hailddefnyddio, yn rhad ac am ddim.

Ymunwch â'n e-gylchlythyr

Tanysgrifiwch