Mae dros 70% o’r holl achosion tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn cynnwys gwastraff cartref, e.e. nwyddau gwyn, dodrefn, bagiau bin du gormodol a theganau wedi'u defnyddio.

Mae hyn yn aml am fod deiliad tŷ yn ddiarwybod wedi rhoi ei ‘sbwriel’ yn nwylo cludydd gwastraff anghyfreithlon, a hynny oherwydd iddo fethu â gwirio am drwydded cludydd gwastraff swyddogol.

P'un a ydych chi'n bwriadu cael sesiwn o glirio cyn y Nadolig er mwyn gwneud lle i bethau newydd neu efallai y byddai'n well gyda chi aros nes bod pethau’n tawelu yn y flwyddyn newydd — hoffem eich annog i ystyried pa rai o'ch eitemau cartref diangen all gael eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu hailgartrefu.

Bydd hyn yn helpu i leihau faint o wastraff sydd i’w gael mewn safleoedd tirlenwi, bydd yn gadael mwy o le yn eich bagiau du ar gyfer sbwriel nad oes modd ei ailgylchu ac yn helpu i leihau faint o wastraff cartref sy’n cael ei ganfod wedi ei dipio’n anghyfreithlon ar draws Cymru ar ôl y Nadolig.

Dyma rai o'n prif gynghorion i'ch helpu chi i ddechrau arni:

Ailddefnyddio ac ailgylchu:

  • Hen ddodrefn: Cyn i chi benderfynu taflu'ch hen fwrdd coffi allan, oes modd i chi roi bywyd newydd iddo? Beth bynnag yw’r eitem, mae YouTube a Pinterest yn llawn dop o fideos Uwchgylchu ymarferol i’ch ysbrydoli a’ch cynghori. Os nad ydych chi'n teimlo'n ddigon hyderus i roi cynnig ar uwchgylchu eich hun, mae yna ddigon o gwmnïau a sefydliadau uwchgylchu ar draws Cymru a fyddai wrth eu boddau’n clywed oddi wrthych, fel NuLife Furniture — prosiect gwych a sefydlwyd gan Gymdeithas Tai Cadwyn yng Nghaerdydd.
  • Cardbord a phlastig: Os ydych chi'n rhedeg allan o syniadau i ddiddanu'r plant yn ystod gwyliau Nadolig yr ysgol, beth am adael iddyn nhw roi cynnig ar drawsnewid eich sbwriel cardbord a phlastig yn rhywbeth newydd a sentimental, fel addurn coeden?
  • Offer trydanol (gan gynnwys nwyddau gwyn): manteisiwch ar y cynllun ailgylchu Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE). Os byddwch chi'n prynu eitem electronig newydd o Currys, Argos neu John Lewis (i enwi ambell un), byddan nhw’n derbyn eich hen eitemau am ddim. I gael mwy o wybodaeth am gyfarwyddeb WEEE, ewch i: www.gov.uk/electricalwaste-producer-supplier-responsibilities.
  • Eitemau cartref mawr: Mae trefnu i'ch awdurdod lleol gasglu unrhyw eitemau swmpus diangen o'ch cartref yn ffordd wych o amddiffyn eich hun rhag cludwyr gwastraff twyllodrus a thipwyr anghyfreithlon posib. Hefyd, rydych chi'n gwybod y bydd eich nwyddau diangen yn bendant yn cael eu hailgylchu neu eu gwaredu'n ddiogel ac yn gyfrifol. Ewch i wefan eich Cyngor i ddarganfod pa wasanaethau casglu gwastraff swmpus sydd ar gael yn eich ardal chi.

Ailgartrefu:

  • Hen hoff deganau: efallai bod eich plant wedi tyfu allan o'u sleid gardd, ond nid yw hynny'n golygu na fyddai plentyn rhywun arall wrth ei fodd yn ei weld o dan ei goeden Nadolig. Allech chi gynnig unrhyw hen deganau i ffrind? Neu efallai y gallech chi eu hysbysebu ar eich grŵp Facebook cymunedol lleol?
  • Ffasiwn: yn hytrach na phrynu eitemau dillad newydd a thaflu’r hen rai yn y bin bob amser, beth am fabwysiadu agwedd fwy cynaliadwy at ffasiwn? Gallwch fenthyca a chyfnewid gyda ffrindiau, rhoi i siopau elusen a siopa ynddynt neu fe allech chi hyd yn oed ddechrau hobi newydd a dysgu sut i wneud eich dillad eich hun…
  • Eitemau cartref ‘Cystal â newydd’: Yn ôl yr hen ddywediad, mae sbwriel un dyn yn drysor dyn arall! Os ydyn nhw mewn cyflwr da, efallai y byddai rhywun wir yn gwerthfawrogi'ch hen soffa, teledu neu oergell. Mae Gumtree, Facebook Marketplace, eBay a Freegle i gyd yn wefannau gwych ar gyfer prynu a gwerthu ail-law. Hefyd, mae elusennau fel y British Heart Foundation yn cynnig gwasanaeth casglu dodrefn, offer trydanol a nwyddau cartref os ydych chi am roi eich eitemau at achos da.


I gael mwy o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ar sut i ailddefnyddio, ailgylchu ac ailgartrefu eitemau cartref diangen dros yr ŵyl, cadwch lygad ar ein tudalen Facebook lle’r ydym yn rhannu awgrymiadau bach dyddiol yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig.

Mae'r cyfan yn rhan o'n hymgyrch dymhorol, #TymoryTwtio. Os oes gennych chi unrhyw gyngor yr hoffech ei rannu am reoli gwastraff yn ddiogel ac yn gyfrifol adeg y Nadolig, ymunwch â'r sgwrs trwy ddefnyddio hashnod ein hymgyrch ar Twitter.