Yn ystod cyfnod y Nadolig, gallwn ddisgwyl gweld cynnydd sylweddol yn y gwastraff cyffredinol a chynnydd o tua 13% mewn tipio anghyfreithlon.

Wrth gwrs, mae hyn i’w ddisgwyl wrth i anrhegion gael eu cyfnewid a’u hagor – ac er y gellir cael gwared ar eitemau bach y gellir eu hailgylchu yn hawdd, gallai cael gwared ar eitemau mwy fel hen ddodrefn a nwyddau gwyn beri penbleth.

Mae tipwyr anghyfreithlon yn gwybod hyn a byddant yn manteisio arno trwy gynnig mynd â’ch hen eitemau i ffwrdd yn rhad am arian parod - yn enwedig yn ystod tymor y Nadolig.

Dydyn ni ddim eisiau i'ch arian gwerthfawr fynd i ddwylo'r troseddwyr hyn: gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn eich Dyletswydd Gofal gyfreithiol i gael gwared ar eich eitemau gyda chludwyr gwastraff cofrestredig, oherwydd os canfyddir bod eich gwastraff cartref wedi'i dipio'n anghyfreithlon - hyd yn oed os gwnaethoch dalu i gael gwared arno - gallech wynebu dirwy.

Gwnewch yn siŵr nad yw eich Nadolig yn mynd yn ddrytach fyth drwy osgoi dirwy o £300 y gellir ei rhoi os canfyddir bod eich gwastraff cartref wedi’i dipio’n anghyfreithlon, darllenwch ein cyngor isod.

Defnyddiwch gludwr gwastraff cofrestredig

Yn gyntaf, dylech wirio a yw eich awdurdod lleol yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau swmpus neu a allwch fynd ag eitemau eich hun i'ch tip lleol yn rhad ac am ddim.

Gellir cael gwared ar eitemau cartref mawr nad oes eu heisiau, fel dodrefn neu setiau teledu, yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn gyfreithlon trwy gludwr gwastraff cofrestredig.

Mae gan y cludwyr hyn drwyddedau y gellir eu gweld ar Gofrestr Gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru, a byddant yn cael gwared ar eich hen soffas, oergelloedd, byrddau coffi, neu eitemau cartref swmpus eraill mewn modd cyfreithlon a diogel.

Wrth chwilio am wasanaeth gwaredu gwastraff cartref, cofiwch:

• Wirio bod y cludwr wedi'i restru ar y Gofrestr Gyhoeddus a chofnodi ei rif cofrestru; bydd y rhif yn dechrau gyda CBDU ac yna chwe digid.

• Cadw derbynneb sy'n cynnwys disgrifiad o'r gwastraff a'r cwmni a ddefnyddiwyd;

• Cofnodi manylion y busnes neu gerbyd (cofrestriad, gwneuthuriad, model, lliw).

Byddwch yn ofalus os oes rhywun yn cynnig cael gwared ar eich gwastraff am arian parod. Mae tipwyr anghyfreithlon yn dwyllodrus ac yn aml byddant yn gwneud hyn i osgoi cael eu canfod – ond yn y pen draw byddwch yn talu ddwywaith os canfyddir bod eich gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon.

Ailgylchwch neu ailblannwch eich coeden

Efallai mai’r eitem fwyaf y byddwch yn ceisio cael gwared arni yw’r goeden Nadolig. Gall fod yn drist gwybod bod eich coeden wedi’i thorri i lawr i dreulio mis yn eich cartref dim ond i gael ei thaflu i safleoedd tirlenwi…

Ond newyddion da – nid yw eich coeden yn mynd i bydru os byddwch yn dewis ailblannu neu ailgylchu.

Os oes gan eich coeden Nadolig ei gwreiddiau o hyd, mae'n gymharol hawdd ei hailblannu i'w defnyddio am lawer mwy o flynyddoedd.

Fel arall, os oes gennych goeden arbennig o fawr ac nad oes awydd arnoch i dyfu coedwig fach yn eich gardd, gallwch ailgylchu eich hen goeden yn hawdd trwy drefnu i'ch cyngor lleol ei chasglu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r manylion ar wefan eich cyngor.

Mae gan goed wedi'u hailgylchu amrywiaeth o ddefnyddion buddiol, megis:

• Tomwellt ar gyfer tirlunio a garddio

• Pweru gweithfeydd biodanwydd adnewyddadwy

• Rhwystrau llifogydd ar draws y DU

Ailgylchu cardiau a deunydd pacio

Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dweud eu bod yn teimlo’n ddryslyd ynghylch yr hyn y gallant ac na allant ei ailgylchu ond peidiwch â phoeni: gall ailgylchu ac ailddefnyddio pecynnau, cardiau, a thameidiau eraill Nadoligaidd fod yn gymharol syml.

Ar gyfer cardiau a phapur lapio, os nad yw’n ddisglair neu’n sgleiniog, a’i fod heb gliter, gellir ei ailgylchu fel arfer. Os ydych yn ansicr am y papur lapio, gwasgwch ef yn belen – os yw’n cadw ei siâp, gellir ei ailgylchu. Wrth brynu papur lapio, beth am brynu papur cwbl ailgylchadwy neu bapur parsel brown?

Gellir ailgylchu cracers cardfwrdd syml hefyd ar ôl tynnu'r addurniadau a'r cynnwys.

Os na ellir ailgylchu eich cardiau neu bapur lapio, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu casglu a’u rhoi ar ymyl y ffordd ar ddiwrnod casglu gwastraff eich cyngor.

Ewch i Cymru yn Ailgylchu i gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am yr hyn y gellir ei ailgylchu yn eich ardal.

Ail-roi neu gyfrannu anrhegion dieisiau

Os ydych wedi gorfod defnyddio eich sgiliau actio wrth agor ambell anrheg eleni, na phoener. Gallwch wneud y gorau o’r eiliadau bach lletchwith hynny trwy ail-roi unrhyw anrhegion dieisiau – ystyriwch eu rhoi i elusennau, trwy fynd â nhw i fannau casglu neu siopau elusen, ond dim ond pan fydd y siop ar agor.

Mae llawer o elusennau Cymru yn derbyn cryno ddisgiau, doliau, tedis, llyfrau, dillad, colur a stwff ymolchi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eu gwefannau ymlaen llaw ynghylch pa roddion y gallant ac na allant eu derbyn.

Darllenwch fwy am eich Dyletswydd i Ofalu ar ein gwefan yma.

Gweler Awgrymiadau Ailgylchu 12 Diwrnod y Nadolig Ailgylchu Llywodraeth Cymru yma.