Mae Taclo Tipio Cymru yn annog deiliaid tai ledled Cymru i reoli eu sbwriel mewn modd cyfrifol a bod yn wyliadwrus wrth dderbyn cynigion gan unigolion sy’n honni ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn fusnesau gwaredu gwastraff cyfreithlon yn ystod cyfyngiadau clo byr y coronafeirws.

Hefyd, caiff deiliaid tai eu hannog i ohirio prosiectau garddio a DIY hyd nes y caiff y cyfyngiadau symud eu codi, oni bai y bydd modd iddynt storio’r gwastraff ychwanegol yn eu cartrefi heb arwain at risgiau iechyd a diogelwch, fel peryglon tân.

Mae’r rhybudd llym gan Taclo Tipio Cymru yn dilyn pryderon gan awdurdodau lleol ynghylch nifer y bobl sy’n cynnig gwasanaethau gwaredu sbwriel anghyfreithlon mewn grwpiau cymunedol, fel y rhai sydd ar Facebook – rhywbeth y maent yn ofni ei fod ar gynnydd ers i’r cyfyngiadau o ran cadw pellter cymdeithasol ddod i rym yng Nghymru ym mis Mawrth fel rhan o’r frwydr genedlaethol yn erbyn y coronafeirws.

Er bod nifer o bobl eisoes yn ceisio cynhyrchu cyn lleied o wastraff â phosibl, gan gael gwared ag ef yn y dull priodol, caiff deiliaid tai eu hatgoffa fod ganddynt ddyletswydd gofal gyfreithiol i gadarnhau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru fod y sawl a ddefnyddir ganddynt i gael gwared â’r sbwriel o’u cartref yn gludydd gwastraff cofrestredig – yn enwedig ar hyn o bryd, a ninnau yng nghanol argyfwng cenedlaethol.

Yn unol â rheolau a chyfyngiadau cyfnod clo byr Llwyodraeth Cymru bydd yr holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yng Nghymru (a gaiff eu galw’n ‘dipiau lleol’ yn aml) yn cau am 5pm ddydd Gwener, 23 Hydref, hyd nes y clywir yn wahanol.

Felly, mae Taclo Tipio Cymru yn rhybuddio bod deiliaid tai yn fwy tebygol o gael eu twyllo gan unigolion nad ydynt wedi cofrestru, sy’n manteisio ar y cyfyngiadau symud trwy gynnig gwasanaethau gwaredu gwastraff rhad. Yn aml, mae’r unigolion hyn yn gollwng y gwastraff yn anghyfreithlon mewn caeau, ar ymylon ffyrdd ac ar hyd lonydd cefn gwlad.

Os yw swyddog gorfodi gwastraff yn llwyddo i olrhain sbwriel a dipiwyd yn anghyfreithlon at ddeiliad tŷ a aeth ati i ddefnyddio gwasanaethau rhywun heb wirio ei fod yn gludydd gwastraff cofrestredig, fe allai’r deiliad tŷ hwnnw wynebu dirwy ddiderfyn a chael ei erlyn. Ymhellach, gall awdurdodau lleol ledled Cymru gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £300 i ddeiliaid tai, yn hytrach na’u herlyn.

Gellir dod o hyd i restr o gludwyr gwastraff cofrestredig – y dylid ei defnyddio i wneud y gwiriadau hollbwysig hyn – ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Taclo Tipio Cymru hefyd yn argymell y dylai pobl ofyn i ble y bydd eu sbwriel yn mynd, ynghyd â gofyn am dderbynneb gan y cwmni a ddefnyddiwyd i gael gwared â’r gwastraff a chofnodi manylion y cerbyd a ddefnyddiwyd, yn cynnwys ei wneuthuriad, ei fodel a’i rif cofrestru.

Dywedodd Neil Harrison, Rheolwr Rhaglen Taclo Tipio Cymru: “Er lles iechyd a diogelwch pawb, ac er parch i staff ein hawdurdodau lleol sy’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau, cofiwch gadw at eich dyletswydd gofal a gwaredu eich gwastraff mewn modd cyfrifol.

“Os bydd rhywun yn cynnig gwasanaethau gwaredu sbwriel i chi ar y cyfryngau cymdeithasol, mae gennych ddyletswydd gofal gyfreithiol i wirio bod y person neu’r busnes dan sylw yn gludydd gwastraff cofrestredig cyn ei ddefnyddio.

“Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd, ac mae’r bobl sy’n cyflawni’r drosedd hon – yn enwedig a ninnau yng nghanol argyfwng cenedlaethol – yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau a staff sydd eisoes yn brin, gan roi’r swyddogion gorfodi gwastraff a fydd yn ymchwilio i’r tipio anghyfreithlon, ac yn ei glirio, mewn perygl.

“Rydym yn annog deiliaid tai i storio unrhyw wastraff ychwanegol yn eu cartrefi; neu os na fydd hyn yn bosibl, rydym yn eu cynghori i ohirio unrhyw brosiectau DIY sy’n debygol o greu llawer o wastraff hyd nes y bydd y cyfyngiadau symud wedi cael eu codi ym mis Tachwedd a hyd nes y bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi wedi ailagor.

“Hefyd, hoffem atgoffa pawb fod gadael sbwriel ac eitemau cartref nad oes eu hangen mwyach y tu allan i fanciau ailgylchu neu gyfleusterau sydd ar gau, fel siopau elusen a chanolfannau gwastraff lleol, yn cael ei ystyried yn achos o dipio anghyfreithlon.

“Gall y rhai sy’n dewis tipio’n anghyfreithlon wynebu dirwy o hyd at £50,000 neu ddeuddeg mis o garchar os ydynt yn cael eu herlyn mewn Llys Ynadon.”

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol. Mae’n achosi niwed mawr i’r amgylchedd, i’r economi ac i gymunedau lleol – ac fe allai’r sawl sy’n cyflawni’r drosedd hon wynebu dirwy o hyd at £50,000 neu 12 mis o garchar.

I gael mwy o wybodaeth am ffyrdd o reoli eich gwastraff yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws, edrychwch ar flytippingactionwales.org/cy, dilynwch @FtAW ar Twitter neu chwiliwch am @FtAWales ar Facebook.