Mae deiliaid tai yng Nghymru mewn perygl mawr o gael eu twyllo gan wasanaethau symud sbwriel sydd heb eu trwyddedu.

Mae’r rhybudd cryf hwn i bobl Cymru wedi ei roi gan Taclo Tipio Cymru, ar ôl i waith ymchwil awgrymu bod 42% o ddeiliaid tai yng Nghymru yn dal heb wybod bod ganddyn nhw ddyletswydd gyfreithiol i holi am gludwr gwastraff sydd wedi’i gofrestru wrth drefnu symud sbwriel o’u cartref.

Wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws lacio, mae deiliaid tai yn cael eu hatgoffa fod ganddyn nhw ddyletswydd gofal yn gyfreithiol i gadarnhau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru fod gan y person neu’r busnes maen nhw’n ei ddefnyddio i symud llwythi mawr o sbwriel neu eitemau diangen o’u cartref drwydded cludwr gwastraff swyddogol.

Os bydd swyddog gorfodi yn olrhain gwastraff sydd wedi’i adael yn anghyfreithlon yn ôl i ddeiliad nad oedd wedi gwneud yr ymholiadau hyn, yna bydd mewn perygl o gael dirwy hyd at £5,000 a’i erlyn.

Gall awdurdodau lleol ar draws Cymru hefyd osod cosb benodol o £300 ar ddeiliad yn hytrach na’i erlyn. Mae rhestr o gludwyr gwastraff sydd wedi’u cofrestru ac y dylid eu defnyddio i wneud yr archwiliadau hanfodol hyn, i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Taclo Tipio Cymru hefyd yn argymell pobl i ofyn i ble mae eu sbwriel yn mynd a gofyn am dderbynneb gan y cwmni a ddefnyddir i symud y gwastraff a chofnodi manylion y cerbyd dan sylw, gan gynnwys y gwneuthuriad, y model a’i rif cofrestru.

 I gefnogi hyn mae awdurdodau lleol ar draws Cymru yn parhau’n gynyddol bryderus am ‘dipwyr Facebook’. Mae’r unigolion hyn yn honni eu bod yn fusnesau symud gwastraff cyfreithlon ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys grwpiau cymunedol Facebook gan  hysbysebu symud gwastraff cartrefi am bris isel.

Gwyddom fod y gweithredwyr anghyfreithlon hyn yn gadael gwastraff yn anghyfreithlon er mwyn gwneud elw. O ganlyniad i’r ymelwa hwn mae’r deiliad sy’n berchen y gwastraff nid yn unig ar ei golled, ond mae hefyd mewn perygl o gael dirwy, neu hyd yn oed ei erlyn.

Meddai Neil Harrison, Arweinydd Tîm Taclo Tipio Cymru: “Caiff tua 33,000** o ddigwyddiadau o ollwng sbwriel yn anghyfreithlon eu cofnodi yng Nghymru bob deuddeg mis, sy’n cyfateb i 90 o ddigwyddiadau y dydd, neu bedair trosedd bob awr.

“O’r digwyddiadau hyn, mae dros 70% yn cynnwys gwastraff cartrefi — ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn.

“Fel deiliaid tai, os addawn i gyd i sicrhau ein bod yn defnyddio cludwr gwastraff sydd wedi’i gofrestru wrth drefnu symud gwastraff diangen o’n cartrefi, bydd hyn nid yn unig yn  diogelu rhag dirwyon diangen, ond yn bwysicach, bydd yn helpu diogelu ein hamgylchedd naturiol rhag effeithiau andwyol gadael sbwriel yn anghyfreithlon”.

Mae Taclo Tipio Cymru hefyd yn annog pobl i leihau faint o wastraff sydd ganddynt i’w waredu drwy ddefnyddio gwasanaethau fel Freecycle, rhoi eitemau diangen i elusennau  lleol, ac ymchwilio i’r gwasanaethau sydd ar gael gan eich Awdurdod Lleol am dâl ac yn ddi-dâl.

Ac meddai’r Heddwas, Eryl Lloyd, “Yn anffodus mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dal yn offeryn sy’n cael ei ddefnyddio i dargedu pobl ar-lein gyda chynllwynion a gwybodaeth gamarweiniol.

“Bryd hynny, byddwch yn wyliadwrus iawn rhag pobl yn ymddangos fel gweithredwyr cludo gwastraff cyfreithlon. Bydd yr unigolion hyn yn cymryd eich arian chi ac yn gwneud elw drwy ddifwyno cefn gwlad Cymru â gwastraff o’ch cartref chi – a’ch rhoi chi mewn perygl o gyflawni troseddau dyletswydd gofal”.

Er mwyn annog trigolion Cymru i ddysgu mwy am eu dyletswydd gofal o ran gwastraff eu cartrefi, mae Taclo Tipio Cymru yn gwahodd y cyhoedd i lofnodi addewid am ddim ar eu gwefan.

Mae hyn i gyd yn rhan o’u hymgyrch ‘Dyletswydd Gofal’, i helpu cynyddu ymwybyddiaeth o gyfrifoldeb Dyletswydd Gofal Gwastraff yng Nghymru.

Bydd pob llofnod yn addewid i Gymru i helpu gwarchod ein hamgylchedd naturiol rhag gadael sbwriel yn anghyfreithlon.

Mae’r apêl hon i weithredu hefyd yn cefnogi’r ymgyrch Addo gan Croeso Cymru — sy’n annog pobl i wneud mwy o ymrwymiad i ofalu am Gymru, ei hamgylchedd a’i chymunedau yn ystod pandemig y coronafeirws.

*Ffynhonnell: CCUK Research & Insight / Arolwg Llywodraeth Cymru o ymwybyddiaeth o ddyletswydd gofal ymhlith pobl sy’n byw yng Nghymru, Mawrth 2021.

**Ffynhonnell: Ffigurau blynyddol Llywodraeth Cymru ar adael gwastraff yn anghyfreithlon yng Nghymru: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Environment-and-Countryside/Fly-tipping

I lofnodi’r addewid Dyletswydd Gofal gan Taclo Tipio Cymru, ewch i taclotipiocymru.org.

Mae gadael gwastraff yn anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol. Mae’n gwneud niwed sylweddol i’r amgylchedd, yr economi a chymunedau lleol — a’r canlyniad yw dirwy hyd at £5000 neu 12 mis o garchar i’r troseddwr os caiff ei erlyn mewn Llys Ynadon.

Am  ragor o wybodaeth am ffyrdd i reoli’ch gwastraff yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn  gyfrifol, ewch i visit taclotipiocymru.org neu dilynwch @FtAW ar Twitter neu chwiliwch am @FtAWales ar Facebook.