Heddiw (06 Ionawr), mae cerddwyr o Gymru wedi cael eu stopio’n stond ar ôl gweld delweddau ofnadwy o realiti tipio anghyfreithlon yng Nghymru — a'r effaith y mae'n ei chael ar yr amgylchedd heb fod ymhell o'u hoff fannau harddwch.

Ymddangosodd faniau digidol Taclo Tipio Cymru yn dangos delweddau o dipio anghyfreithlon mewn cyrchfannau poblogaidd ym Mannau Brycheiniog, Bae Rhosili a Pharc Cenedlaethol Eryri — yn annog y rhai oedd yn mynd heibio i ddilyn eu Dyletswydd Gofal i helpu i atal tirweddau Cymru rhag dod yn fannau problemus o ran tipio anghyfreithlon.

athn_060124_digivan_rhossili_4938.jpg

Er bod adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru a Taclo Tipio Cymru yn nodi gostyngiad o 4% mewn gwarediadau anghyfreithlon o'i gymharu â'r llynedd*, mae tipio anghyfreithlon yn dal i fod yn broblem wirioneddol yng Nghymru.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae niferoedd enfawr o sgamwyr ar-lein, a elwir yn aml yn ‘dipwyr anghyfreithlon Facebook’, sy’n honni eu bod yn gludwyr gwastraff cyfreithlon wedi treiddio i gymunedau ar-lein, gan fanteisio ar ddeiliaid tai diarwybod a dympio eu gwastraff yn anghyfreithlon.

Amcangyfrifir bod clirio gwastraff a waredwyd yn anghyfreithlon wedi costio £1.83 miliwn i drethdalwyr Cymru rhwng 2022 a 2023 gyda gwastraff cartref yn cyfrif am 70% o dipio anghyfreithlon. Fodd bynnag, gallai'r ffigur hwn gael ei leihau’n sylweddol pe bai pob deiliad tŷ yn dilyn eu Dyletswydd Gofal gwastraff, sy’n golygu cymryd camau syml i sicrhau eu bod yn llogi cludwyr gwastraff cofrestredig yn unig i fynd â'u gwastraff i ffwrdd.

Gall trigolion Cymru gefnogi eu cyngor lleol a helpu i barhau i leihau achosion o dipio anghyfreithlon drwy wirio bod y person sy’n cludo gwastraff o’u cartrefi yn meddu ar drwydded.  Gellir edrych am drwyddedau cludo gwastraff ar cyfoethnaturiol.cymru/gwiriocludwrgwastraff neu drwy ffonio 0300 065 3000.

Dywedodd Neil Harrison, Arweinydd Tîm Taclo Tipio Cymru: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd y delweddau hyn yn agor llygaid pobl i'r perygl y gallai peidio â gwaredu eu gwastraff yn gyfrifol ei achosi i'r amgylchedd — gan beryglu’r union dirwedd maen nhw allan yn ei mwynhau heddiw.

“Mae’n dal yn wir fod tua 70% o’r holl dipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff o gartrefi, a dyna pam rydym yn annog trigolion i amddiffyn eu hunain rhag cludwyr gwastraff anghyfreithlon anghofrestredig ac yn gofyn iddynt wirio bob amser gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a yw’r sawl y maent yn ei ddefnyddio i symud unrhyw wastraff dros ben o'u cartrefi yn gludwr gwastraff cofrestredig.

"Os ydych chi am wneud adduned blwyddyn newydd syml a allai gael effaith wirioneddol, ymrwymwch i sicrhau eich bod yn cael gwared ar eich gwastraff yn gyfrifol yn 2024."