Efallai bod gwleddoedd gorffenedig, anrhegion wedi’u hagor, rhoddion newydd a choed sy’n drwm gan addurniadau yn arwydd o Nadolig gwych, ond mae hefyd yn golygu eich bod chi, eich teulu a'ch ffrindiau'n debygol o fod wedi cyfrannu at gynnydd mewn gwastraff cartref.

Mewn gwirionedd, rydym yn cynhyrchu 30% yn fwy o wastraff* adeg y Nadolig - sy'n golygu bod gennym hyd yn oed mwy o sbwriel i gael gwared arno o’n cartrefi na'r arfer.

Gyda hyn mewn golwg, mae paratoi ar gyfer cynnydd disgwyliedig mewn gwastraff yr adeg hon o'r flwyddyn yn allweddol i sicrhau ein bod ni i gyd yn cael gwared ar ein sbwriel Nadoligaidd gormodol yn gyfreithiol, yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Dyma ychydig o bethau hawdd y gallwch eu gwneud i gynllunio ymlaen llaw, a bydd pob un ohonynt yn eich helpu i ddelio ag unrhyw lanast Nadoligaidd cyn iddo ddigwydd hyd yn oed…

Diweddarwch eich calendr gydag unrhyw newidiadau i’ch gwasanaethau casglu gwastraff arferol

Gyda dwy ŵyl banc dros y Nadolig, cofiwch wirio gyda'ch cyngor lleol am unrhyw newidiadau i'ch gwasanaethau casglu gwastraff arferol. Mae pob cyngor yn wahanol, ond, er enghraifft, gallant gyflwyno cynnydd dros dro yn y lwfans bagiau bin du neu wneud newidiadau i ddyddiadau ac amseroedd casglu yn eich ardal chi.

Ailgylchwch gymaint ag y gallwch

Ar ddechrau tymor yr ŵyl, archebwch fwy o fagiau a bocsys ailgylchu gan eich cyngor lleol i'ch helpu i ailgylchu cymaint ag y gallwch dros y Nadolig. Mae bagiau ar gael i'w casglu mewn llawer o siopau lleol, canolfannau hamdden cynghorau, swyddfeydd post a fferyllfeydd os ydych eisoes angen ymweld â'r lleoedd hyn.

Mae'n swnio'n syml, ond os ydych chi'n gwasgu bocsys cardbord, caniau a photeli plastig yn fflat cyn eu rhoi yn eich bagiau a'ch bocsys ailgylchu, fe all wneud byd o wahaniaeth o ran lle i gael mwy o eitemau.

Hefyd, cadwch lygad am gardiau Nadolig a phapur lapio ailgylchadwy. Gwiriwch y deunydd pacio bob amser i fod yn sicr, ond rheol dda yw osgoi cardiau sy'n cynnwys glud neu ddelweddau 3D a phapur lapio gliter neu ffoil.

Ac os oes gennych gardiau a phapur lapio na ellir eu hailgylchu, beth am eu hailddefnyddio'r flwyddyn nesaf? Fe allech chi wneud collage, llyfrau lloffion, neu hyd yn oed gardiau cartref. Gellir defnyddio hen bapur lapio fel padin hefyd - perffaith os oes angen i chi storio addurniadau Nadolig cain neu eitemau bregus gartref.

Mae'r prawf sgrwnshio papur lapio hefyd yn ddull hawdd o brofi am alluoedd ailgylchu ddydd Nadolig. Os ydych chi'n sgrwnshio’r papur a'i fod yn dal ei siâp, mae hyn fel arfer yn golygu y gellir ailgylchu'r papur.

Gyda masgiau wyneb yn sicr wedi'u cynnwys mewn archebion ar gyfer y tymor eleni, beth am brynu opsiynau y gellir eu hailddefnyddio yn lle prynu'r mathau tafladwy. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu'ch sefyllfa ariannol yn y tymor hir, ond bydd hefyd yn helpu i leihau gwastraff masgiau wyneb yng Nghymru.

Gwnewch le i eitemau newydd y cartref – yn gyfrifol

Os ydych chi'n disgwyl cael unrhyw eitemau mawr newydd ar gyfer y cartref yn anrheg Nadolig, fel soffa, oergell, bwrdd neu deledu newydd, meddyliwch sut y gallwch chi gael gwared â'ch hen eitemau swmpus, yn barod ar gyfer y rhai newydd sy'n cyrraedd - yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.

Dewis da, rhad, yw trefnu casgliad gwastraff swmpus gyda'ch cyngor lleol, y gellir ei archebu ar-lein.

Neu, os yw'r eitemau mewn cyflwr da, fe allech chi geisio eu gwerthu ar y we. Mae Gumtree, Facebook Marketplace, eBay a Freegle i gyd yn adnoddau gwych ar gyfer prynu a gwerthu eitemau ail-law. Wyddoch chi byth, efallai mai'ch hen soffa yw'r anrheg Nadolig berffaith i ferch rhywun - ac efallai y byddwch chi hyd yn oed yn cael rhywfaint o arian yn ôl o ganlyniad.

Os byddwch yn penderfynu trefnu cael gwared â sbwriel cartref gyda gwasanaeth casglu a gwaredu gwastraff cartref trydydd parti, gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn gwirio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru bod yr unigolyn neu'r cwmni rydych chi'n ei ddefnyddio yn gludydd gwastraff cofrestredig a gofynnwch bob amser i ble mae'ch gwastraff yn mynd.

Yn llawer rhy aml, ac yn enwedig adeg y Nadolig, mae llawer o unigolion yn ymddangos fel busnesau gwaredu gwastraff cartref cyfreithlon ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn digwydd yn aml iawn mewn grwpiau cymunedol ar Facebook, gyda hysbysebion wedi'u postio yn cynnig gwasanaethau casglu sbwriel rhad i ddeiliaid tai lleol am gost isel.

Mae hyn yn cynyddu'r risg y bydd deiliaid tai yn cael eu twyllo gan unigolion anghofrestredig, sy'n aml yn dympio'r gwastraff y maent wedi'i gasglu'n anghyfreithlon mewn caeau, ar ochrau ffyrdd ac ar hyd lonydd gwledig.

Os yw swyddog gorfodaeth gwastraff yn olrhain sbwriel wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn ôl i ddeiliad tŷ na wnaeth y gwiriadau priodol ar gyfer cludydd gwastraff cofrestredig, mae perygl iddo gael dirwy ddiderfyn ac erlyniad. Gall awdurdodau lleol ledled Cymru hefyd roi hysbysiad cosb benodedig o £300 i ddeiliad y tŷ fel dewis arall yn lle erlyniad.

Rydym yn eich annog i gadw llygad am y drosedd wastraff hon dros y Nadolig er mwyn amddiffyn eich hun rhag cael eich twyllo, ac i'n helpu i leihau faint o wastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon ledled Cymru.

Trefnwch ymweliad â’ch tomen wastraff leol ymlaen llaw

Mae pawb yn gwybod mai'r Nadolig yw’r adeg brysuraf o'r flwyddyn, gyda llawer ohonom yn rhedeg o gwmpas yn ceisio cael popeth mewn trefn yn barod ar gyfer y diwrnod mawr.

Ymhlith y siopa bwyd, addurno, prynu anrhegion, coginio, glanhau a’r dathliadau Nadoligaidd, mae'n amlwg pa mor hawdd fyddai anghofio trefnu ymweliad â'ch tomen wastraff leol - yn enwedig os ydych yn bwriadu cymryd unrhyw wastraff dros ben yna, unwaith y bydd y dathliadau drosodd.

Felly, gobeithiwn y bydd hon yn nodyn atgoffa cyfeillgar i chi. Os ydych chi'n cynllunio ymweliad â'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref leol y Nadolig hwn, nawr yw'r amser i neilltuo eich slot.

Er mwyn sicrhau ymweliadau diogel gyda phellter cymdeithasol yn sgil COVID-19, mae'r rhan fwyaf o gynghorau ledled Cymru yn gweithredu system archebu orfodol ar gyfer mynediad i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref, er mwyn rheoli nifer y bobl sy'n ymweld ar unrhyw adeg benodol.

Ewch i wefan eich cyngor lleol i gael mwy o wybodaeth ac i brosesu eich archeb.

Ond, cyn i chi fynd ati i archebu, hoffem eich annog i edrych yn iawn ar yr eitemau rydych chi'n bwriadu cael gwared arnyn nhw - rhag ofn bod rhywbeth yno y gallai rhywun arall gael defnydd da ohonynt, fel aelod o'r teulu, ffrind, elusen neu fusnesau uwchgylchu lleol. Fel mae'r hen air yn ei ddweud, mae sbwriel un dyn yn drysor dyn arall!

I gael mwy o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am reoli gwastraff yn ddiogel i ddeiliaid tai dros yr ŵyl, cadwch lygad ar ein tudalen Facebook, lle rydym yn rhannu awgrymiadau cryno dyddiol yn y cyfnod yn arwain at Ddydd Nadolig.

Mae'r cyfan yn rhan o'n hymgyrch dymhorol, #TymoryTwtio. Os oes gennych unrhyw gyngor yr hoffech ei rannu am reoli gwastraff yn ddiogel ac yn gyfrifol adeg y Nadolig, ymunwch â'r sgwrs trwy ddefnyddio hashnod ein hymgyrch ar Twitter.

*data o astudiaeth ddiweddar gan y cwmni rheoli gwastraff, Biffa.