Roedd 35,424 o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yng nghymru y llynedd. mae taclo tipio cymru yn galw ar y cyhoedd i helpu atal tippio anghyfreithlon trwy fod yn ymwybodol o weithredwyr gwastraff anghyfreithlon a thrwy ddeall eu dyletswydd gofal gwastraff.

P'un ai oergell sydd wedi'i dympio ar gornel stryd y ddinas, neu hen gegin osod sy'n difetha'r olygfa ar ben mynydd, prin y cewch chi neb nad yw'n casáu tipio anghyfreithlon. Efallai cewch eich synnu o ddysgu felly, bod dros ddwy ran o dair o'r gwastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff o gartrefi pobl.

Er nad oes amheuaeth bod deiliaid tai sy'n credu ei bod yn dderbyniol  tipio gwastraff yn anghyfreithlon eu hunain, yn aml, gweithredwyr gwastraff didrwydded sy'n gyfrifol. Mae'r unigolion hyn yn cynnig gwaredu sbwriel ar gyfradd is ar draul ein hamgylchedd. Maen nhw'n tipio'r gwastraff yn anghyfreithlon i osgoi'r costau sy'n gysylltiedig â gwaredu diogel a chyfreithlon.

Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am orfodi yn erbyn gwastraff cartref sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon ac maen nhw'n ymchwilio i ddigwyddiadau er mwyn dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ond mae'n aml yn anodd dod o hyd i'r tramgwyddwyr. Mae deddfwriaeth dyletswydd gofal gwastraff yn rhan o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (1990). Mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar ddeiliaid tai i sicrhau bod gwastraff a gynhyrchir ar eu heiddo yn cael ei roi i berson awdurdodedig. Gellir erlyn deiliaid tai os nad ydynt yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gwastraff a gynhyrchir ar eu heiddo yn cael ei drosglwyddo i unigolyn trwyddedig.

Gall mynd â rhywun i'r llys am y drosedd hon gymryd llawer o amser ac ymdrech i'r Awdurdod Lleol a gallai arwain at gofnod troseddol i'r deiliad tŷ, hyd yn oed os gwnaethant dalu rhywun yn ddidwyll i gael gwared ar eu gwastraff. Am y rheswm hwn y mae'r mesurau newydd hyn yn cael eu cyflwyno.  Byddant yn ei gwneud yn haws i Awdurdodau Lleol ddal deiliaid tai i gyfrif ac atal gwastraff rhag mynd i ddwylo gweithredwyr gwastraff anghyfreithlon.

Felly, beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei drin yn gyfrifol?

Yn gyntaf, meddyliwch am y gwastraff rydych chi'n ei gynhyrchu a cheisiwch gynllunio ymlaen llaw. Os ydych chi'n cael trafferth gyda gwastraff gormodol o fywyd beunyddiol, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu ewch i wefan Ailgylchu dros Gymru, fydd yn gallu'ch helpu i ailgylchu mwy.

Gellir rhoi eitemau fel offer trydanol, teganau a dodrefn i elusennau a siopau ailddefnyddio. Bydd rhai yn casglu eitemau am ddim os ydyn nhw mewn cyflwr da. Fodd bynnag, gwiriwch fod yr elusen ailgylchu eisiau'r eitemau gan fod gadael eitemau y tu allan pan fydd y siop ar gau yn cyfrif fel tipio anghyfreithlon ac mae perygl i chi gael eich erlyn.

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth casglu eitemau swmpus, mae cost defnyddio'r gwasanaeth hwn a nifer yr eitemau y gallwch eu casglu yn amrywio ledled Cymru ond gallwch ddisgwyl talu rhwng £15 a £45 am ychydig o eitemau mawr.