Mae Ystadegau tipio anghyfreithlon blynyddol ar gyfer 2021-22 wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, gan ddatgelu’r awdurdodau lleol sy’n cymryd camau i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ledled Cymru – gyda chyfanswm o 966 o gamau gorfodi gwastraff wedi’u cofnodi rhwng mis Ebrill 2021 a Mawrth 2022.  

Gallai unrhyw un sy’n cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon yng Nghymru wynebu ystod o gamau gorfodi gan gynnwys hysbysiad cosb benodedig o £400, atafaelu eu cerbyd, dirwy ddiderfyn yn y llys neu garchar.

Beth mae'r ystadegau'n ei ddangos?

Yr awdurdodau lleol â’r nifer uchaf o erlyniadau tipio anghyfreithlon llwyddiannus yng Nghymru 2021-22 oedd:

1.     Rhondda Cynon Taf (42 erlyniad)

2.     Casnewydd (29 erlyniad)

3.     Caerffili (9 erlyniad)

Ar ben hynny, yr awdurdodau lleol a gyhoeddodd y mwyaf o hysbysiadau cosb penodedig eleni oedd:

1.     Caerdydd (565 Hysbysiad Cosb Benodedig)

2.     Powys (69 Hysbysiad Cosb Benodedig)

3.     Abertawe (47 Hysbysiad Cosb Benodedig)

Er gwaethaf y cynnydd bach o (0.64%) i 41,333 o achosion o dipio anghyfreithlon yr adroddwyd amdanynt o’i gymharu â’r llynedd (41,071 o ddigwyddiadau yn 2020/21), cofnododd 16 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ostyngiad – gan gynnwys Gwynedd, Wrecsam, a Sir y Fflint.

Ar y cyfan, mae’r ystadegau’n dangos datblygiad calonogol o ran gweithredu ar dipio anghyfreithlon; mewn ardaloedd lle mae lefelau tipio anghyfreithlon yn dal i fod yn uchel, mae awdurdodau lleol yn gweithredu ar y gweithgareddau anghyfreithlon drwy gyflwyno camau gorfodi. Mewn ardaloedd sy’n nodi gostyngiad yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon, maent yn gobeithio parhau â’r duedd yn 2023, gan atgoffa preswylwyr o’u Dyletswydd Gofal cyfreithiol o ran gwaredu eitemau diangen o’u cartrefi. 

 

Beth allwch chi ei wneud i helpu i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon?

Mae tua dwy ran o dair (70%) o’r holl achosion o dipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff o gartrefi, a dyna pam yr ydym yn annog trigolion i amddiffyn eu hunain rhag cludwyr gwastraff anghofrestredig.

Gallwch ein helpu i atal tipio anghyfreithlon yn ei darddiad trwy wirio bod y person yr ydych chi’n ei dalu i waredu eitemau diangen o’ch cartref wedi cofrestru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru

Ein Dyletswydd ni yw Gofalu bod gwastraff o’n cartrefi’n mynd i’r lle iawn - peidiwch â chael eich twyllo gan dipwyr anghyfreithlon. Os bydd eich gwastraff yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, gallech chi a’r sawl sydd wedi’i dipio wynebu camau gorfodi.

Am ragor o fanylion am yr hyn y gallwch chi ei wneud i atal tipio anghyfreithlon yng Nghymru, darllenwch fwy am eich Dyletswydd Gofal a sut i waredu eich gwastraff yn gyfrifol.