Ydych chi, eich plentyn neu berthynas yn mynd i'r brifysgol? Dyma ein pum darn pennaf o gyngor ar sut y gall myfyrwyr osgoi bod yn dipwyr anghyfreithlon anfwriadol y flwyddyn academaidd hon.

P’un a ydyn nhw’n symud o lety i dŷ, yn symud i dŷ myfyrwyr newydd neu’n dychwelyd i'r un lle, rhaid i bob preswylydd (gan gynnwys myfyrwyr) ddilyn eu Dyletswydd Gofal gyfreithiol wrth gael gwared â gwastraff er mwyn osgoi'r risg o ddirwyon am dipio anghyfreithlon.

1.     Uwchgylchu ac ailwerthu

Cyn taflu unrhyw beth allan, gofynnwch yn gyntaf: allwn i ei ailddefnyddio ar ôl ychydig bach o waith, neu oes modd ei ailwerthu i wneud ychydig o arian poced ar gyfer dychwelyd i'r brifysgol?

Os yw’r eitem mewn cyflwr da, mae ei rhoi i siop elusen neu grŵp lleol a fyddai'n elwa o gael dodrefn segur bob amser yn ddefnyddiol. Efallai y byddan nhw hyd yn oed yn casglu’r eitem - dydy gadael eitemau y tu allan i dai myfyrwyr byth yn ateb a gallai arwain at ddirwyon costus.

Os oes eitemau gwastraff ar ôl y tenantiaid blaenorol pan fyddwch yn symud i mewn am y tro cyntaf, dylai myfyrwyr siarad â'u landlord neu asiant yr eiddo yn syth. Dylai telerau ac amodau ddatgan nad oes unrhyw wastraff yn yr eiddo wrth symud i mewn: mae'r landlord yn gyfrifol am gael gwared ar y gwastraff hwn yn gyfreithlon ac yn gyfrifol.

2.     Ailgylchu

Yn fwy na thebyg, bydd myfyrwyr yn byw gyda grŵp mawr o bobl, felly mae'n bwysig bod mor drefnus â phosib pan ddaw hi'n fater o ailgylchu - er mwyn osgoi bagiau gwastraff cyffredinol gorlawn!  Trwy ailgylchu, mae mwy o le yn y bin gwastraff cyffredinol i'r tŷ cyfan ei ddefnyddio.

Gall myfyrwyr weld beth yw’r dyddiau ailgylchu ar wefan eu Cyngor, ac fel arfer bydd gwybodaeth fel hyn ar gael yn undeb y myfyrwyr hefyd. Dylai myfyrwyr bob amser ddefnyddio'r biniau neu'r bagiau cywir fel y nodir gan y Cyngor.

Os ydych chi’n cefnogi myfyriwr wrth symud, gwnewch yn siŵr ei fod yn ailgylchu popeth y gellir ei ailgylchu, boed hynny’n bapur, cardbord, gwydr neu wastraff plastig – a’i fod yn ailgylchu’r hyn y bydd y Cyngor lleol yn ei gymryd yn unig ac yn didoli’r eitemau’n iawn!

Os ydy preswylwyr yn ansicr o ran beth sy'n cael ei ailgylchu, gallant fynd i https://www.walesrecycles.org.uk/cy a defnyddio eu peiriant chwilio i wirio beth sydd yn gallu cael ei ailgylchu ym mhob ardal yng Nghymru.

3.     Edrych am gludwr gwastraff

Os yw myfyrwyr yn symud i eiddo newydd ac yn clirio hen ddodrefn ac eitemau eraill, atgoffwch nhw i wirio bob amser bod y person maen nhw'n ei dalu i gael gwared â'u gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig.

Peidiwch â dibynnu ar argymhellion neu hysbysebion fel gwarantau, oherwydd os yw'r person sy'n mynd â'i wastraff i ffwrdd yn ei dipio’n anghyfreithlon, gallai ef a’r cludwr gwastraff gael dirwy. Gwiriwch bob amser gyda Cyfoeth Naturiol Cymru bod y cludwr gwastraff wedi'i gofrestru yma.

Byddwch yn ymwybodol o hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Facebook, a phlatfformau ar-lein sy'n cynnig prisiau isel - gallai hyn fod yn arwydd o dipiwr anghyfreithlon.

4.     Gwybod beth yw tipio anghyfreithlon…

Mae gadael eitemau neu fagiau y tu allan i siopau elusen, wrth ymyl biniau cyhoeddus, neu hyd yn oed y tu allan i fanciau ailgylchu yn enghreifftiau o dipio anghyfreithlon. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar wastraff yn y ffordd gywir i ddiogelu'r ardal leol – a’r balans yn eich banc. Mae cynllunio ymlaen llaw bob amser yn syniad da.

5.     Edrych i weld a yw eich prifysgol yn cynnig cymorth

Yn olaf, fyfyrwyr: os ydych chi wedi drysu o ran yr hyn rydych chi fod i'w wneud a'r hyn nad ydych chi i fod i'w wneud, gofynnwch i weld a yw eich prifysgol yn cynnig unrhyw wasanaethau neu gefnogaeth.

Fel arfer, bydd gan undebau myfyrwyr swyddog tai sydd ar gael i'ch helpu – gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’r gwasanaethau perthnasol, maen nhw yno i’ch helpu chi!