Mae tymor glanhau’r gwanwyn ar y gorwel, a gyda 70% o’r tipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff cartref, mae Taclo Tipio Cymru wedi galw ar rai wynebau adnabyddus i hysbysu deiliaid tai am eu “Dyletswydd Gofal” i wirio bob amser am drwydded cludwr gwastraff wrth gael gwared ar wastraff.

Rydym wedi ymuno â phump o hoff grewyr cyfryngau cymdeithasol Cymru i rannu cyngor ar waredu gwastraff yn gyfrifol – gan gyrraedd y swm syfrdanol o 1.4 miliwn o bobl yn y broses! Dyma’r hyn a oedd ganddynt i’w ddweud:

Cynghorion ymarferol ar gyfer cael gwared ar flerwch gyda’r Fam Gymreig, Steph

Mae’r Fam Gymreig, Steph, yn boblogaidd gan rieni ledled y wlad am ei phortread dilys o’i bywyd fel mam i ddau. Mae hi’n hynod frwdfrydig dros warchod tirweddau Cymru, er mwyn i’w phlant ac eraill eu mwynhau nawr ac yn y dyfodol.

GWYLIWCH  wrth i Steph rannu ei chynghorion gwych ar gyfer cael gwared ar wastraff yn gyfrifol yn ystod cyfnod o dacluso mawr yn y cartref, gyda chyngor yn cynnwys y canlynol:

  • Rhoi eitemau diangen i siopau elusen
  • Defnyddio gwasanaeth gwaredu gwastraff swmpus eich cyngor
  • Mynd â gwastraff i’ch canolfan ailgylchu leol

welsh mummy steff.jpg

Adnabod cludwr gwastraff amheus gydag Ellis Lloyd Jones

Mae’r seren TikTok, Ellis, bob amser yn dod â llawenydd a chyngor cadarnhaol i’w ddilynwyr.

Dyma Ellis yn rhannu’r portread doniol hwn o ddeiliad tŷ yn talu rhywun i gael gwared ar ei wastraff cartref – gan dynnu sylw at arwyddion amlwg mawr i gadw llygad amdanynt er mwyn osgoi cael eich dal allan gan dipiwr anghyfreithlon!

ELJ.png

Dyma Heledd Roberts yn rhannu’r hyn y mae’r Ddyletswydd Gofal yn ei olygu mewn gwirionedd

Fel merch i berchennog canolfan ailgylchu, mae’r broblem tipio anghyfreithlon yng Nghymru wastad wedi bod yn rhywbeth yr oedd Heledd eisiau helpu i frwydro’n ôl yn ei erbyn. Yn y fideo trawiadol hwn, mae hi’n rhannu ffeithiau am y Ddyletswydd Gofal, gan gynnwys y negeseuon canlynol:

  • Eich Dyletswydd Gofal chi yw sicrhau eich bod yn cael gwared ar eich gwastraff yn gyfrifol.
  • Os canfyddir bod eich gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon, gallech gael dirwy hyd yn oed os oeddech wedi talu rhywun arall i’w gludo ymaith.

Mae Heledd hefyd yn rhannu cynghorion ymarferol ar sut y gallwch wirio a ydyw cludwr gwastraff wedi’i gofrestru drwy wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

heledd roberts.png

Chwalu mythau gyda chomedi Tom Rix

Digrifwr o dde Cymru yw Tom Rix, sy’n adnabyddus ar TikTok am ei acenion a’i ddynwarediadau. Mae’n frwd dros gefnogi ac amddiffyn bywyd yng Nghymru, felly fe neidiodd at y cyfle i rannu cyngor ymarferol yn ei ffordd ddigywilydd arferol.

Gwyliwch y fideo hwn, lle mae Tom yn chwalu mythau cyffredin am waredu gwastraff ac yn rhybuddio gwylwyr am beryglon tipwyr anghyfreithlon Facebook.

TR.png

Osgoi dod yn dipiwr anghyfreithlon anfwriadol gyda Reclaimed DNA

Creawdwr a pherchennog busnes cynaliadwy o Gaerdydd yw Darwin sy’n rhannu newyddion a safbwyntiau am yr amgylchedd.

Fel rhywun sy’n cymryd rhan yn rheolaidd mewn sesiynau codi ysbwriel ar draws y brifddinas, mae Darwin yn esbonio yma[IW1]  sut i osgoi dod yn dipiwr anghyfreithlon anfwriadol trwy wneud y canlynol:

  • Peidio â gadael eich sbwriel wrth ymyl bin llawn
  • Peidio â gadael hen nwyddau cartref ar y stryd i bobl eu casglu
  • Sicrhau bod rhoddion siopau elusen yn cael eu cyflwyno yn ystod oriau agor, ac nid yn cael eu gadael y tu allan

Cefnogwch ein hymgyrch a rhannwch ein fideos gyda’ch ffrindiau a’ch teulu i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod i wirio am drwydded bob amser wrth dalu rhywun i fynd â’u gwastraff i ffwrdd.

darwin.png