Os canfyddir bod eich gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon gan gludwr gwastraff anghofrestredig, gallwch chi a'r tipiwr anghyfreithlon gael eich erlyn.

Rydym ni wedi bod yn rhannu’r neges hon ers mis Mawrth 2019, pan lansiwyd ein hymgyrch ‘Eich Dyletswydd Chi yw Gofalu’. Crëwyd yr ymgyrch ymwybyddiaeth er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd, a chyfrifoldeb cyfreithiol deiliaid tai i wirio eich bod yn defnyddio cludwyr gwastraff cofrestredig wrth waredu gwastraff cartref, oherwydd – p’un ai a ydych yn cael gwared ar hen ddodrefn, setiau teledu, cyfrifiaduron, ac ati – mae'n ddyletswydd arnoch i ofalu i ble mae eich gwastraff yn cael ei gario yn y pen draw.

Os na wnewch chi hyn, gallech gael eich erlyn.

Ond, sut mae mesur a weithiodd yr ymgyrch? Roedd angen i ni ddarganfod a oedd aelodau'r cyhoedd yn dod yn fwy ymwybodol o Ddyletswydd Gofal y Cartref dros y blynyddoedd roedd yr ymgyrch yn rhedeg. Dyma sut hwyl gawson ni…

I grynhoi, bu’r ymgyrch yn llwyddiant!

Er mwyn mesur yr ymgyrch, aethom ati i greu arolwg ar gyfer oedolion yng Nghymru, gan ofyn cwestiynau i brofi eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o bwerau cyfreithiol gwaredu gwastraff.

 Mae canlyniadau’r ymgyrch yn dangos bod gan 64% o bobl ddealltwriaeth o Ddyletswydd Gofal Gwastraff erbyn Mawrth 2022, o’i gymharu â 56% ar ddechrau’r ymgyrch yn 2019.

  • Mae 44% o bobl yn gwybod y dylid defnyddio contractwr cofrestredig i brofi cydymffurfiaeth â rheolau Dyletswydd Gofal, o’i gymharu â 25% ar ddechrau'r ymgyrch.
  • Nawr, mae 79% o bobol yn gwybod y gallan nhw gael eu herlyn os yw eu sbwriel yn cael ei dipio’n anghyfreithlon – o’i gymharu â 74% ar ddechrau’r ymgyrch.
  • Yn olaf, mae 59% o bobl yn gwybod y gellir erlyn y tipiwr anghyfreithlon hefyd os canfyddir bod y tipiwr anghyfreithlon, sy'n gludwr gwastraff anghofrestredig, wedi tipio sbwriel yn anghyfreithlon.
  • Yn ffodus i ni, ac yn awr i chi, cafodd ein hymgyrch effaith dda – gydag 1 o bob 4 o gyfranogwyr ein harolwg wedi clywed am yr ymgyrch!

Un o'r uchafbwyntiau allweddol? Gwahaniaeth sylweddol rhwng ymwybyddiaeth yn 2019 ac ymwybyddiaeth yn 2022, gan fod y ddealltwriaeth ynghylch Dyletswydd Gofal Gwastraff wedi lledaenu ar hyd a lled y wlad.

Yn ogystal â gwell dealltwriaeth o Ddyletswydd Gofal Gwastraff, bu newid cadarnhaol hefyd yn y ddealltwriaeth o bwy y gellir eu herlyn am dipio’n anghyfreithlon.

Atebodd 43% o bobl yn gywir y gallan nhw eu hunain a'r tipiwr anghyfreithlon gael eu herlyn os nad yw’r unigolyn yn dilyn ei ddyletswydd gofal mewn perthynas â gwastraff.

Felly, beth nesaf?

Ar ôl gwrando ar eich barn, byddwn yn diweddaru ein pecynnau cymorth ac yn eu hanfon at awdurdodau lleol ar draws Cymru er mwyn darparu gwybodaeth hygyrch am dipio anghyfreithlon a Dyletswydd Gofal Gwastraff – gan helpu cynghorau lleol i rannu’r newyddion â chymunedau ar hyd a lled Cymru.

Byddwn hefyd yn diweddaru ein gwefan gyda sut y gallwch osgoi tipio anghyfreithlon damweiniol drwy flogiau, a thrwy rannu e-gylchlythyrau i bawb sy'n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.