Mae cymaint o sefydliadau ledled Cymru a all elwa o'ch gwastraff diangen. Oergelloedd, byrddau, dillad, soffas — unrhyw beth.

Ymunwch â ni wrth i ni dynnu sylw at bum busnes, menter ac elusen anhygoel yng Nghymru sy'n parhau i chwarae rhan bwysig wrth helpu i leihau gwastraff cartrefi, sydd yn ei dro yn helpu i leihau nifer yr achosion tipio anghyfreithlon yng Nghymru.
 

1.     Repair Café Wales

Mae Repair Café Wales yn gasgliad o wirfoddolwyr sy'n cynnal Caffis Trwsio dros dro ledled Cymru i drwsio eitemau y gall y cyhoedd eu cyflwyno, am ddim.

Mae'r mathau o eitemau y gallant eu trwsio yn cynnwys dillad, eitemau trydanol cartref, technoleg, gwaith coed, teganau plant, dodrefn a beiciau.

Ewch i'w gwefan i ddod o hyd i'ch Caffi Trwsio COVID-ddiogel lleol nesaf: repaircafewales.org/venues/.
 

2.     Nu Life Furniture

Dyma brosiect gwych wedi’i leoli yng Nghaerdydd a sefydlwyd gan Gymdeithas Tai Cadwyn. Mae Nu Life Furniture yn uwchgylchu eitemau cartref diangen, gan gynnwys dodrefn a nwyddau gwyn, i'w gwerthu i'r rhai sydd eu hangen, am bris fforddiadwy iawn.

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd neu'r ardaloedd cyfagos ac am roi eich eitemau diangen i helpu pobl i ddodrefnu eu cartrefi mewn modd fforddiadwy, llenwch y ffurflen archebu ar wefan Nu Life Furniture: http://nulifefurniture.co.uk/donate/.

Mae casgliadau NuLife Furniture am ddim ac ar hyn o bryd mae'r sefydliad yn blaenoriaethu chwilio am yr eitemau canlynol: oergelloedd, rhewgelloedd oergell, peiriannau golchi, ffyrnau, fframiau gwelyau, matresi, wardrobau, soffas, byrddau a chadeiriau.
 

3.     Too Good Too Waste

Too Good To Waste fu'r prif elusen ailddefnyddio yn ne Cymru ers dros ugain mlynedd, gan gasglu eitemau diangen o gartrefi, fel dodrefn ac offer trydanol, gan ddeiliaid tai am ddim.

Mae'r holl eitemau'n cael eu gwerthu am brisiau fforddiadwy yn eu hystafelloedd arddangos, sydd wedi'u lleoli yn Ynyshir, Aberdâr a Threorci, gyda'r elw'n mynd tuag at helpu pobl yn y gymuned leol.

Mae'r elusen yn ymdrechu i wneud y gorau o botensial a lleihau gwastraff drwy ailbwrpasu nwyddau diangen preswylwyr i helpu i liniaru effeithiau tlodi, ac atal mwy o eitemau y gellir eu hailddefnyddio rhag mynd i safleoedd tirlenwi neu gael eu tipio'n anghyfreithlon ar draws ffyrdd, cilfannau a chefn gwlad Cymru.

Os ydych am i eitemau cartref diangen gael eu casglu o'ch cartref a'ch bod yn byw yn ardal Rhondda Cynon Taf, rhowch alwad i dîm Too Good To Waste ar 02443 680090 a byddant yn trefnu i ddod i gasglu hyd at wyth eitem am ddim.
 

4.     British Heart Foundation

Eisiau rhoi eich eitemau swmpus diangen i elusen ond heb unrhyw ffordd o'u cael yno?

Mae’r British Heart Foundation yn cynnig gwasanaeth casglu dodrefn, eitemau trydanol a nwyddau cartref COVID-ddiogel. Yn dibynnu ar eich dewis, bydd eu criwiau faniau cofrestredig yn casglu o'ch dewis ystafell, eich stepen drws neu bwynt mynediad diogel arall.

I gael gwybod a yw'r gwasanaeth ar gael yn eich ardal leol, ewch i: https://www.bhf.org.uk/shop/donating-goods/book-furniture-collection-near-me.

Cofiwch, os gallwch roi eich eitemau diangen i siop elusen yn bersonol, peidiwch â'u gadael y tu allan i'r siop, gan fod hyn yn dal i gael ei ystyried yn dipio anghyfreithlon. Gadewch nhw'n ddiogel y tu mewn i'r siop, neu os yw'r siop ar gau, dychwelwch yn ddiweddarach.
 

5.     Crest

Wedi'i leoli yng Nghyffordd Llandudno a Bae Colwyn, mae Crest yn brosiect elusennol ac yn aelod o'r Reuse Network.

Wedi'i oruchwylio gan grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr, cenhadaeth y prosiect yw 'datgloi potensial pobl drwy gynhwysiant, arloesedd a mentergarwch, er budd y gymuned'. Mae Crest yn cyflawni hyn drwy gynnig cyfle i bobl ddifreintiedig uwchsgilio a chael profiad gwaith go iawn mewn amgylchedd cefnogol.

Fel rhan o hyn, mae'r elusen yn croesawu rhoddion o ddodrefn diangen a nwyddau trydanol cartref o gartrefi trigolion ledled Conwy. Yna caiff unigolion eu hyfforddi i uwchgylchu, trwsio ac ailbwrpasu'r eitemau diangen, fel y gellir eu gwerthu i'w defnyddio mewn cartref newydd.

Mae Crest yn cynnig casgliadau am ddim ar gyfer eitemau o ddodrefn ‘addas i'w hailddefnyddio'. Os bernir bod eich eitemau diangen yn anaddas i'w hailddefnyddio neu eu hailwerthu, yna maent hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff cofrestredig am ffi. I drefnu casgliad, ewch i crestcooperative.co.uk/donate/ neu ffoniwch 01492 596783.
 

Mae digon o sefydliadau, elusennau a mentrau ledled Cymru a all elwa o'ch eitemau diangen y Nadolig hwn. Ewch i wefan eich Cyngor i gael rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am sut i ailddefnyddio, ailgylchu ac ailgartrefu eitemau diangen o gartrefi dros gyfnod yr ŵyl, cadwch lygad ar ein tudalen Facebook lle rydym yn rhannu awgrymiadau dyddiol yn y cyfnod cyn Dydd Nadolig.

Mae'r cyfan yn rhan o'n hymgyrch dymhorol, #TymoryTwtio. Os oes gennych unrhyw gyngor yr hoffech ei rannu am reoli gwastraff yn ddiogel ac yn gyfrifol adeg y Nadolig, ymunwch â'r sgwrs drwy ddefnyddio hashnod ein hymgyrch ar Twitter.