Mae pedair llywodraeth y DU a’u hasiantaethau amgylcheddol yn cydweithio ar brosiect i ddatblygu gwasanaeth olrhain gwastraff digidol ledled y DU i gasglu gwybodaeth am sut mae gwastraff yn cael ei symud.

Ym mis Ionawr, lansiwyd ymgynghoriad pedair gwlad ynghylch 'Cyflwyno gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol' ac fe'ch anogir i ddysgu mwy a rhoi eich barn.

Dywedodd Louise Peel, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: ''Bydd gan wasanaeth olrhain gwastraff digidol fanteision lluosog, gan gynnwys helpu i fynd i'r afael â chyfleoedd mewn perthynas â throseddau gwastraff, fel tipio anghyfreithlon. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cefnogi ein hymgais i symud i economi fwy cylchol a bydd yn helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am seilwaith gwastraff a pholisi gwastraff yng Nghymru drwy greu darlun llawn o ba fath o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu a ble mae'n mynd’.

Mae CNC a Llywodraeth Cymru eisiau gwybod beth yw eich barn am y cynigion i gyflwyno gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol, i'n helpu i fynd i'r afael â throseddau gwastraff fel tipio anghyfreithlon ac allforion anghyfreithlon a gwneud mwy o ddefnydd o'n gwastraff.

  • Cynhyrchir dros 200 miliwn tunnell o wastraff yn y DU bob blwyddyn ond ar hyn o bryd nid oes ffordd ganolog o'i olrhain.
  • Mae hyn yn rhoi cyfleoedd i droseddwyr waredu gwastraff yn anghyfreithlon – sy’n effeithio ar bobl a'r amgylchedd.
  • Mae llawer o fusnesau hefyd yn gwneud cynhyrchion newydd allan o ddefnyddiau gwastraff – gallai olrhain gwastraff ddarparu mwy o gyfleoedd i hyn ddigwydd ac i fusnesau ddefnyddio'r cynhyrchion a wneir o wastraff yn hytrach na defnyddiau crai.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 15 Ebrill 2022. Rhowch eich barn i ni yma

Mae datblygiad y gwasanaeth TG eisoes ar y gweill ac yn cael ei gefnogi gan banel defnyddwyr o tua 1200 o aelodau sy'n cynrychioli cynhyrchwyr gwastraff, cludwyr, broceriaid, delwyr, gweithredwyr safleoedd gwastraff, awdurdodau lleol, a rheoleiddwyr o bob rhan o'r DU. Mae aelodau o'r panel hwn yn helpu i ddatblygu'r gwasanaeth trwy gymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr a phrofi.

Os hoffech chi ymuno â'n panel defnyddwyr, gallwch gofrestru yma.

Rydym hefyd yn cynhyrchu cylchlythyrau rheolaidd ynghylch datblygiad y gwasanaeth olrhain gwastraff. Os hoffech chi ymuno â'r rhestr e-bostio ar gyfer y cylchlythyrau hyn, gallwch wneud hynny yma.