A oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn gweithgareddau am ddim sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru i gyd-fynd ag Wythnos Natur Cymru? (29 Mehefin - 7 Gorffennaf).

Mae Taclo Tipio Cymru yn cynnal cystadleuaeth creu poster mewn partneriaeth â chyngor Torfaen, Cadwch Gymru'n Daclus, a Hafod i gwmpasu rhan eang o'r Cwricwlwm i Gymru.

Rydym yn gofyn i ddysgwyr yn Nhorfaen ein helpu i ddylunio poster a fydd yn hyrwyddo gwaredu deunydd gwastraff yn gyfrifol. Nod y gystadleuaeth hon yw ysbrydoli dysgwyr Blwyddyn 5 a 6 i fynd i’r afael â materion cyfoes y byd go iawn mewn perthynas â’r hyn sy'n digwydd i'n gwastraff. Bydd y dyluniad buddugol yn cael ei wneud yn arwydd y bydd y cyngor a'r partneriaid yn ei ddefnyddio yn eich ardal.

  • Dylid defnyddio thema’r gystadleuaeth creu poster, sef 'Mae Torfaen yn talu’n ddrud am sbwriel a tipio anghyfreithlon!' i annog dysgwyr i greu delweddau(au) eu poster a'u testun. Beth mae eich dysgwyr yn ei ddeall am gostau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y drosedd amgylcheddol o daflu sbwriel a tipio anghyfreithlon yn yr ardal? Pa syniadau sydd ganddynt a allai annog eraill i fabwysiadu ymddygiad mwy cyfrifol ynghylch gwaredu gwastraff?
  • Bydd cynrychiolydd o Taclo Tipio Cymru, Cadw Cymru'n Daclus a Chynghorydd Torfaen, Mandy Owen, yn dyfarnu'r 3 chynnig gorau o bob ysgol yn Nhorfaen.
  • Bydd taleb llyfr £30 a thystysgrif yn cael eu cyflwyno i'r ymgeisydd buddugol ynghyd â rhai rhoddion gan Cadwch Gymru'n Daclus. Bydd ail a thrydydd enillydd, a fydd hefyd yn cael tystysgrif.
  • Bydd partneriaid yn tynnu lluniau o’r cynnig/dysgwr buddugol (gyda chaniatâd ar waith/cymeradwyaeth gan yr ysgol) ac yn cyhoeddi erthygl i'r cyfryngau lleol ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol i'w defnyddio yn ystod Wythnos Natur Cymru.
  • Mae partneriaid yn agored i gynnal diwrnod o weithredu yn ardal leol yr ysgol fuddugol yn y cyfnod cyn Wythnos Natur Cymru.  Gall eich dysgwyr fwynhau bod yn ddinasyddion egwyddorol trwy gymryd rhan mewn sesiwn casglu sbwriel.  Gellir cynnal digwyddiad ar wahân ar gyfer gwirfoddolwyr eraill. Gall yr arwyddion corex plastig gael eu gosod o amgylch yr ardal leol gan bartneriaid.
  • Bydd Taclo Tipio Cymru yn sicrhau bod nifer o arwyddion ar gael yn rhad ac am ddim i'r ysgol fuddugol, a'r holl sefydliadau partner i'w defnyddio ar draws Torfaen. Gall Cadwch Gymru'n Daclus hefyd gefnogi unrhyw ysgolion sydd â diddordeb mewn dod yn Eco-Ysgol, neu ail-ymgysylltu â nhw drwy’r Rhaglen Eco-Sgolion.

Credwn y gall eich dysgwyr elwa o archwilio egwyddorion a gwerthoedd y mater pwysig hwn a gobeithiwn y bydd gan eich ysgol ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cyfle hwn.

E-bostiwch oliver.james@torfaen.gov.uk i gofrestru'ch diddordeb.

Adnoddau addysg

Mae Eco-Sgolion yn darparu cyfres lawn o weithgareddau ac adnoddau, gan gynnwys rhai sy'n gysylltiedig â sbwriel a'r amgylchedd. Gall ysgolion cynradd ddod o hyd i adnoddau yma Adnoddau Cynradd - Cadwch Gymru'n Daclus - Eco-Sgolion. Sylwch y bydd adnoddau'n nodi cysylltiadau â'r cwricwlwm yn ogystal â'r cyfnod targed lle bo hynny'n berthnasol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gweithgareddau a gemau ar sbwriel, tipio anghyfreithlon a gwastraff a fydd yn eich helpu i gyflawni yn erbyn y cwricwlwm presennol a byddant yn galluogi dysgwyr i gamu ymlaen yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Gwybodaeth allweddol

  • Gall disgyblion gymryd rhan yn y Gymraeg neu'r Saesneg.  Dylai’r geiriau fod yn uchafswm o un frawddeg neu amryw eiriau ar wahân
  • Rhaid i’r cynigion fod gan ddisgyblion unigol
  • Gall pob ysgol gofrestru cymaint o gynigion ag y dymunant, un i bob disgybl
  • Rhaid i'r cynigion fod yn un dudalen o bapur A3
  • Rhaid anfon cynigion i swyddfeydd Torfaen (cyfeiriad isod) erbyn dydd Mercher 5 Mehefin, at sylw Ollie James
  • Rhaid i'r gwaith fod yn wreiddiol ac wedi'i greu gan y disgyblion - peidiwch â defnyddio unrhyw dempledi
  • Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw diwedd y dydd, ddydd Mercher 5 Mehefin

Cyfeiriad ar gyfer cynigion:

FAO Oliver James,
Ty Blaen Torfaen,
Panteg Way,
New Inn,
NP4 0LS

Beirniadu cynigion

Bydd posteri'n cael eu beirniadu ar sail creadigrwydd, pa mor dda y maent yn cyd-fynd â'r thema a'r effaith y credwn y byddant yn ei chael ar bobl sy’n eu gweld wrth fynd heibio.  Mae angen i'r cynnwys fod yn glir a chael ei gyfathrebu mewn ffordd ddiddorol.

Dewisir cynnig buddugol ar gyfer pob un o'r categorïau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, gydag un enillydd cyffredinol yn derbyn y taleb llyfr o £30; rhoddir tystysgrifau i'r tri ymgeisydd buddugol gyda'r prif enillydd yn derbyn ei daleb llyfr a'i dystysgrif gan y Cynghorydd Owen.

Bydd arwyddion naill ai'n cael eu creu'n ddwyieithog neu ar wahân yn Gymraeg a Saesneg, yn dibynnu ar y cynnig buddugol.