Adnoddau Ymgyrch

 

Rydym wedi ail-lansio ein Hymgyrch ‘It’s Your Duty to Care | Eich Dyletswydd Chi yw Gofalu’ - ac mae angen eich help arnom i gynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn ag un o droseddau gwastraff mwyaf cyffredin Cymru.

Baner Eich Dyletswydd chi yw Gofalu

Gellir dod o hyd i’r pecyn cymorth yn ei gyfanrwydd yma.

Oeddech chi'n gwybod bod dros 70% o wastraff tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn cynnwys eitemau cartref diangen a sbwriel?

Yn amlach na pheidio, mae hyn o ganlyniad i ddeiliad tŷ, yn ddiarwybod iddo, yn rhoi ei wastraff cartref gormodol yn nwylo tipiwr anghyfreithlon.

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol, sy'n fygythiad uniongyrchol i'r amgylchedd, anifeiliaid, cymunedau lleol, a'n tirweddau hyfryd yng Nghymru. Felly, fel erioed, rydym yn awyddus i barhau i weithio ochr yn ochr â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, fel chi, er mwyn helpu i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yng Nghymru ac i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o droseddau gwastraff cyffredin.

Fel rhan o’r ymdrech hon, rydym yn ddiweddar wedi ail-lansio ein Hymgyrch ‘It’s Your Duty to Care | Eich Dyletswydd Chi yw Gofalu’. Mae’r ymgyrch, sydd wedi'i chreu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn annog deiliaid tai yng Nghymru i bob amser wirio am drwydded cludydd gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn defnyddio gwasanaeth unrhyw berson neu gwmni i symud sbwriel gormodol o'u heiddo.

Os na fydd deiliaid tai yn gwneud y gwiriadau angenrheidiol hyn a bod eu gwastraff yn cael ei ganfod wedi ei dipio'n anghyfreithlon, bellach gellir rhoi dirwy o £300 iddynt a gellir eu herlyn am beidio â dilyn eu Dyletswydd Gofal Gwastraff Cartref.

Sut allwch chi helpu:

Gyda'ch help a'ch cefnogaeth — gallwn gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o Ddyletswydd Gofal Gwastraff Cartref ymhellach, parhau i frwydro yn erbyn tipio anghyfreithlon yng Nghymru ac amddiffyn llawer mwy o bobl rhag cael eu twyllo gan dipwyr anghyfreithlon.

Gyda mwy o addysg ac ymwybyddiaeth, gallwn ostwng canran y gwastraff cartref sy’n cael ei dipio'n anghyfreithlon a sicrhau bod deiliaid tai yn dilyn y camau cywir y mae angen iddyn nhw eu dilyn wrth waredu eu sbwriel gormodol.

Cefnogwch ein hymgyrch os gwelwch yn dda drwy ddefnyddio’r adnoddau isod, y gellir eu lawrlwytho, ar draws eich sianelau cyfathrebu, gan dagio dolenni cyfryngau cymdeithasol TTC isod:

Facebook: Fly-tipping Action Wales

Twitter: @FTAW

Instagram: flytipping_action_wales

Mae adnoddau’n cael eu storio ar Googledrive, er ei bod yn dal yn bosibl i rai nad ydynt yn defnyddio Google lawrlwytho adnoddau heb orfod cofrestru.

Ceir tair fersiwn o’r posteri a thaflenni i’w lawrlwytho:

  • Ffeil PDF â thestun nad yw’n gorlifo (addas ar gyfer argraffu ar gyfrifiaduron mewnol)
  • PDF â thestun sy’n gorlifo (addas ar gyfer argraffu ar argraffwyr proffesiynol)
  • Ffeiliau ‘In-design’ – sef ffeiliau y gellir eu golygu (ni fyddwch yn gallu eu hagor ar eich cyfrifiadur oni bai fod gennych Adobe In-Design), fel y gall rhanddeiliaid / partneriaid olygu a chynnwys eu logo eu hunain os bydd angen cyn argraffu.

Ar Twitter, oherwydd y cyfyngiad ar nodau, mae’n anodd ffitio prif negeseuon yr ymgyrch mewn un Trydariad (ac mae cyfieithiadau Cymraeg yn aml yn dueddol o fod yn hirach na’r testun Saesneg – felly gall hynny achosi problem).

Felly, bydd rhai o’r postiadau Twitter yn y pecyn cymorth yn fwy na’r cyfyngiad o 280 nod – ond mae’n dal yn bosibl eu postio yn rhwydd fel edefynnau Twitter (h.y. rhannu’r copi yn ddau drydariad cysylltiedig – felly os yw defnyddiwr yn gweld / clicio ar un o’r Trydariadau, bydd y Trydariad cysylltiedig bob amser yn ymddangos gydag ef).

Er mwyn cysylltu trydariadau yn Twitter – Cliciwch y botwm "Tweet" i greu Trydariad newydd. Ysgrifennwch Drydariad cyntaf eich edefyn. Cliciwch y botwm "Add another Tweet" newydd a bydd ffenestr ail Drydariad yn agor. Gallwch gyhoeddi’r edefyn cyfan yr un pryd drwy bwyso ar y botwm “Tweet all".

Diolch am eich help a'ch cefnogaeth. Awn i’r afael â thipio anghyfreithlon gyda'n gilydd.

 

Ymunwch â'n e-gylchlythyr

Tanysgrifiwch